03AM YMWELWYR


MWY

Adroddiad Caerdroia - Gwdihŵ

Ystyr y gair Caerdroia ydi ‘caer y troadau’ neu ‘labrinth’. Mae hefyd ystyr ysbrydol iddo, ac amcan ‘tro yng Ngaerdroia’ ydi arwain dyn ar daith drwy drofeydd ei enaid a rhoi profiad o rym oesol yr heuldro iddo.

 

Mae Caerdroia wedi ei leoli yng nghanol Coedwig Gwydyr ger Llanrwst a chynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yno yn 2005.

 

O’m rhan i, cynnig fy hun fel storïwr ar gyfer prosiect Heuldro Haf a wnes i, prosiect oedd yng ngofal Iwan Brioc. Pan gyrhaeddais i’r noswaith gyntaf hwnnw, doedd gen i ddim syniad beth i ddisgwyl. Parciais y car wrth ymyl Capel Gwydyr Uchaf ac edrych i fyny. Yno uwch fy mhen, yn un tswnami tywyll, safai’r goedwig annaearol. Cawsom ein codi o’r maes parcio a’n cludo i fyny’r lôn feicio ar hyd lonydd culion coed conwydd canol y goedwig. Roedd llonyddwch yn trwytho’r awyr o’m cwmpas ac argraff yn dal i fod o synau ac arogleuon y ffermydd fu’n sefyll yma cyn eu dymchwel i wneud lle i’r coed.

 

O’r diwedd, fe gyrhaeddom ni gwt pren lle’n gwisgwyd ni mewn gwisgoedd hynafol du. Yna, ar fainc pren ger adfeilion hen ffermdy, cefais gyfarwyddiau gan Iwan Brioc ynghylch y stori yr oeddwn i’w hadrodd. Gofynnodd i mi adrodd hanes y teulu a fu’n byw yn y ffermdy ac a gafodd eu herlid o’u tir i wneud lle i’r coed. Gofynnwyd i mi gryfhau’r stori drwy ddangos hen luniau o’r cynhaeaf i’r bobl fyddai’n ymweld â ni. Roedd hi’n amlwg bod y stori’n cyffwrdd â’r rhai â’i clywodd hi. Mi wnaeth fy nghyffwrdd innau hefyd gan fy mod innau hefyd wedi colli fy nheulu ac, er nad ydi hi wedi mynd â’i phen iddi, dydi ein fferm ni ychwaith ddim bellach yn fferm weithredol. Ac wrth i mi ddweud hanes trist y teulu fe deimlais fel petawn i’n heneiddio, yn dod yn fwy doeth, yn wir, fel petawn i’n cymryd arna’i ysbryd Nain y teulu.

 

Er bod gwaith wedi f’atal rhag dod yn storïwr i’r Caerdroia nesaf, cefais gyfle i ymweld â’r digwyddiad fel rhan o grŵp ‘Celtic Cauldron’. Wedi prynu’n tocynnau roeddem ni’n edrych ymlaen yn arw at gerdded milltir y labrinth. Synhwyrais fy mod ar fin cychwyn taith hynod o bwysig, a meddyliais pa fath o brofiadau y buaswn i’n eu cael yn nyfnderau’r labrinth. Yn gyntaf fe’n gyrrwyd ni i fyny’r mynydd i fan cychwyn neu borth y Labrinth i ymgynnull y tu mewn i hen gwt pren. Yno, gofynnodd Mike (un o’r trefnwyr) i ni fapio ein bywydau ar ddarnau o bapur. Dim ond amser byr gawsom ni ar gyfer hynny oherwydd yr oeddem yn cael ein galw pob yn un i agor drws.

 

Pan ddaeth fy nhro i i agor y drws roeddwn wedi paratoi fy hun ar gyfer antur arallfydol ei naws ond yr hyn a gefais i yn hytrach oedd braw. Cefais fy hun yn saethu i lawr llethr dywyll ac yn glanio ar ben person a’m helpodd, heb yngan gair, i godi ac yna fy arwain ar hyd twnnel tywyll. Roedd yn brofiad a ddangosodd i mi bwysigrwydd ymddiried mewn un sy’n gallu eich arwain, yn enwedig dan amgylchiadau mor ddryslyd.

 

Cefais lawer o brofiadau rhyfedd eraill ar ôl yr un cyntaf hwnnw - fel darganfod twb lwc o anrhegion lle, wedi rhoi fy llaw i mewn i’r llwch llif, yr hyn a gyffyrddais yno oedd ben dynol byw. Doeddwn i ddim wedi paratoi fy hun ar gyfer unrhyw beth felly! Cododd f’ysbryd wrth glywed curiad drwm ac yna cerddoriaeth a chefais fy hun yn dawnsio yn y tywyllwch i gerddoriaeth cerddorion y labrinth. Daeth camau’r ddawns yn naturiol i mi a theimlais fy mod  wedi bod yno ers canrifoedd - fel petawn i’r tu hwnt i ffiniau amser.

 

Euthum yn fy mlaen ar fy mhen fy hun. Gan deimlo fy ffordd ar hyd wal felfedaidd ochr y llwybr fe gefais hyd i raff a’m harweiniodd at lannerch. Deuthum allan o’r tywyllwch i olau egwan y cyfnos ac yno fe’m hanweswyd gan olion goleuni’r dydd. Cefais fy nghyfarch gan ddwy ferch yn gwisgo mentyll du llaes, yn gwenu’n braf ac yn ystumio arnaf i dynnu fy esgidiau a cherdded drwy ddrysfa neu labrinth fach wair. Roedd y llawr yn oer a gwlyb ac mi wyddwn na fuaswn i byth yn anghofio’r profiad. Ar ôl cwblhau’r ddrysfa cefais f’arwain at sedd, ac yno golchodd un o’r merched fy nhraed gyda dŵr cynnes; roedd hyn yn deimlad rhyfeddol â ninnau yng nghanol yr unlle. O ble oedd ddaeth y dŵr cynnes? Penderfynais nad oedd diben poeni am beth felly ac euthum ati’n hytrach i gofleidio’r profiad. Roeddwn yn teimlo fel plentyn, yn ddiogel yng nghol ei fam. Roedd y profiad nesaf yn f’atgoffa fwy fyth o blentyndod wrth i mi gael f’arwain at hamog, lle gefais fy siglo’n ôl ac ymlaen i sŵn hwiangerdd a churiad calon fel petawn i yng nghroth fy Mam. Roeddwn wedi fy meddu gan dangnefedd ac ymwybyddiaeth o undod geni a marw.

 

Ar ôl ychydig, cefais f’arwain gan un o’r merched mewn du at gerfluniau hardd o grysau anferth wedi eu gorchuddio â mwsogl. Euthum yn fy mlaen ar fy mhen fy hun a chyrraedd llannerch arall. Y tro hwn cefais fy swyno wrth weld a chyffwrdd gwlân defaid mewn basgedi brwyn anferth. Ychydig ymhellach eto ar hyd y llwybr cyrhaeddais gylch o lechi lle'r oedd storïwr yn eistedd ac yn adrodd hanesion hynod mytholeg Gymreig. Daeth llu o atgofion i’m meddwl i o’m mhlentyndod. Ymhellach eto ar hyd y llwybr fe glywais arogl cysurus pobi. Cefais gynnig o gacen gri gan ddyn oedd yn gwenu’n braf. Sylweddolais fod y Labrinth yn canolbwyntio ar wahanol synhwyrau, a thrwyddyn nhw’n estyn ei gyffyrddiad yn ddwfn i’m henaid. Ymhellach i lawr yr allt fe  glywais seiniau soddgrwth. Roedd Caerdroia’n deffro ac yn cyffroi pob un o’m synhwyrau.

 

Hanfod y profiad diwethaf oedd y chweched synnwyr, sef greddf neu sythwelediad. Gwelais ffigwr yn y gwyll pell yn gwisgo mantell ac yn sefyll yn ymyl llyn, ymgorfforiad o Angau ei hun wrth ddrws y byd nesaf.

 

Wrth edrych yn ôl ar fy mhrofiadau’r noson honno, teimlais fy mod wedi teithio i fyd rhwng y bydoedd. Roedd y cyfan yn brofiad wnaeth i mi feddwl pan fyddai hi’n amser i mi farw y buaswn yn gallu dilyn Angau i’r ochr draw heb ofni.

 

Hawlfraint Gwdihŵ 2007


Find us on facebook

Follow us on twitter