03AM YMWELWYR


MWY

Ysbrydnos

Bellach mae Grŵp Celfyddydau Cymunedol  Cynefin a fu’n gweithio ar y perfformiadau  hyd yn hyn wedi rhoi’r awenau drosodd i gynhyrchwyr ac artistiaid lleol fel bod yr holl gynhyrchiad wedi ei sefydlu yn ein cymuned. Mae’r bobl ynghlwm â’r prosiect, lle mae ystod oedran yn amrywio o 10 i 60 oed, wedi bod yn hollol ymrwymedig â’r prosiect ac wedi derbyn adolygiadau gwych. Ein gobaith nawr yw iddynt fynd o nerth i nerth. Cafodd record niferoedd yn y gynulleidfa a ddaeth i wylio’r perfformiad dros y saith noson ei chwalu gan wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Diolch i Jacqui Banks, Megan Broadmeadow a Ceri Rimmer am gyfarwyddo (tydi hyn o bell ffordd ddim yn cyfiawnhau’r  gwaith a wnaeth y tair!), i Menter Iaith am werthu’r ticedi, ac i’r holl wirfoddolwyr.

Find us on facebook

Follow us on twitter