Rheoli Coetir

Mae Golygfa Gwydyr yn rheoli oddeutu 15 hectar o Goedwig Gwydir. Mae’r safle oddeutu 300m o uchder yn ardal Parc Uchel ac mae’n agored i wyntoedd deheuol a gogleddol.
Roedd Coedwig Gwydir yn goetir collddail cymysg brodorol helaeth wedi’i chymysgu gyda chors mawn. Ym 1919 arweiniodd y Ddeddf Goedwigaeth at ffurfio Comisiwn Coedwigaeth Cymru a phrynu rhan helaeth y tir yng Ngwydir. Cafodd y tir hwn ei ddraenio a phlannwyd coed conwydd fel cnwd masnachol. Mae mynediad agored i’r safle cyfan o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, llwybr cerdded cyhoeddus o ogledd i dde’r safle, Llwybr Gwydir (llwybr beicio mynydd) ar hyd ffin ddwyreiniol y safle a sawl llwybr wedi’u marcio a heb eu marcio ledled y safle.
Yn 2005 fe wnaeth Golygfa Gwydyr ymrwymo i Gytundeb Rheoli Cymunedol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n caniatáu rheoli cymunedol ar ein safle coedwig. Dyma ein nodau ar gyfer y safle:
- Gwella mynediad i ac o fewn y safle ar gyfer defnydd cymunedol.
- Defnyddio’r safle a’i goed fel adnodd cymunedol.
- Adfer y coed i fod yn rhai collddail brodorol.
- Gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth.
- Mabwysiadu Mesurau Llifogydd Naturiol lle bo’n hyfyw.
I gyflawni hyn, mae gan Golygfa Gwydyr dair swydd swyddog coetir sydd wedi’u hyfforddi fel gweithredwyr llif gadwyn cymwys, gweithwyr cymorth cyntaf a gweithrediadau coedwigaeth eraill megis naddu. Rydym yn berchen ar dractor coedwigaeth sydd â winsh fecanyddol, sy’n fodd inni reoli coed sylweddol, holltwr coed a threlars.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu gwaith rheoli a gweithrediadau’r Goedwig bob chwarter. Ers Tachwedd 2021 rydym wedi wynebu dwy storm ddramatig (Arwen a Darragh) sydd wedi achosi difrod difrifol i’r coed ar y safle. O ganlyniad, rydym wrthi’n llunio Cynllun Rheoli Coedwig newydd gan fwrw golwg hirdymor ar sut y dylem ni reoli’r safle gyda newid mewn hinsawdd ac anghenion cymunedol ymhlith y prif ysgogwyr. Bydd y cynllun rheoli coedwig ar gael yma unwaith y bydd wedi’i gwblhau. here.

