Hysbysiad Preifatrwydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Rydym yn ymroi i amddiffyn eich preifatrwydd a’ch diogelwch. Pryd bynnag y byddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol, byddwn yn trin yr wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn, deddfwriaeth gyfredol Diogelu Data y DU, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) Ewrop, ac arfer gorau’r Rhyngrwyd.

Gallwch ddefnyddio rhan helaeth o nodweddion y safle hwn heb ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Mae ychydig o nodweddion dewisol y wefan hon, fel cofrestru fel gwirfoddolwr, yn gofyn ichi gyflwyno rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. enw a chyfeiriad, cyfeiriad e-bost). Os rydym am ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben ychwanegol, byddwn bob amser yn gofyn ichi gytuno pan fyddwn ni’n ei chasglu.

Os ydych chi eisoes wedi rhannu gwybodaeth bersonol gyda ni, gallwch newid eich cyfarwyddiadau unrhyw amser drwy gysylltu gyda ni. E-bostiwch info@golygfagwydyr.org gyda’ch cais ac fe wnawn ni ddiwygio eich gosodiadau gwybodaeth a/neu gyfathrebu.

Defnydd o Ddata Personol

Bydd Golygfa Gwydyr yn defnyddio’ch manylion ar gyfer y canlynol:

  • Eich cofrestru fel gwirfoddolwr os ydych chi’n gofyn inni wneud hynny
  • Cyfathrebiadau am ddigwyddiadau a gweithgareddau Golygfa Gwydyr
  • Codi Arian
  • Dibenion marchnata
  • Holiaduron cymunedol
  • Eich hysbysu am gynnyrch a gwasanaethau

Datgelu Data

Ni fyddwn yn gwerthu eich data i unrhyw gorff trydydd parti.

Gofynion y Ddeddf Diogelu.

Bydd y Polisi Preifatrwydd yn berthnasol pryd bynnag y byddwch chi’n cyflwyno gwybodaeth bersonol, ac eithrio fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, lle gall Golygfa Gwydyr rannu gwybodaeth bersonol heb ganiatâd er enghraifft at y diben o atal a chanfod troseddau.

Drwy gyflwyno data personol rydych chi’n cytuno i’w brosesu fel sydd wedi’i ddisgrifio yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Os ydych chi’n gadael sylw, caiff y sylw a’i metadata eu cadw am gyfnod amhenodol. Mae hyn fel y gallwn adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn hytrach na’u cadw mewn ciw cymedroli.

Sylwadau

Pan fo ymwelwyr yn gadael sylwadau ar y safle rydym yn casglu’r data sydd wedi’i ddangos yn y ffurflen sylwadau, yn ogystal â chyfeiriad IP yr ymwelydd a llinyn asiant defnyddiwr y porwr i helpu i ganfod sbam.

Gellir darparu llinyn dienw wedi’i greu o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) i’r gwasanaeth Gravatar i weld a ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae polisi preifatrwydd gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/Unwaith y bydd eich sylw wedi’i gymeradwyo, bydd eich llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Cwcis

Os byddwch yn gadael sylw ar ein gwefan, gallwch ddewis cadw eich enw, cyfeiriad e-bost a gwefan mewn cwcis. Mae'r rhain er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi eich manylion eto pan fyddwch yn gadael sylw arall. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.

Cynnwys mewnosodedig o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi'i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys wedi'i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn union yr un ffordd ag y byddai'r ymwelydd wedi ymweld â'r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, ymgorffori olrhain trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio â'r cynnwys mewnosodedig hwnnw, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â'r cynnwys mewnosodedig os oes gennych gyfrif ac wedi mewngofnodi i'r wefan honno.

Dadansoddeg

Rydym yn defnyddio data gan ymwelwyr i olrhain defnydd gwefan, ac felly gwella ein gwasanaethau. Mae data yn cael ei gadw lle dim ond Golygfa Gwydyr all gael mynediad iddo.