Ein Cefnogi Ni

Gallwch helpu Golygfa Gwydyr i gynnig gwasanaethau i’n cymuned mewn amryw o ffyrdd sy’n gweddu ichi. Rydym yn annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan a helpu gyda phrosiectau. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am roddion o unrhyw faint a fyddai’n gymorth inni barhau gydag ein gwaith.

Gwirfoddoli

Mae Golygfa Gwydyr yn croesawu gwirfoddolwyr i’n helpu i reoli adnoddau i gynnig ein gweithgareddau cymdeithasol, amgylcheddol a lles. Gallai hyn olygu helpu i reoli sesiynau crefft yn ein hadeilad cymunedol, digwyddiadau lles yn y goedwig, neu gynnig help llaw i reoli ein safle coedwig.

Yn ein hadeilad cymunedol rydym yn cynnal gweithgareddau di-ri megis crefftau, cerddoriaeth, Sied y Dynion, Grŵp Cyfeillgarwch a sgyrsiau am y byd o’n cwmpas. Ar ein safle coedwig, Caerdroia, rydym yn cynnal sesiynau lles, Ysgolion Coedwig a phrosiectau amgylcheddol.

Bydd gwirfoddoli gyda ni yn gyfle ichi gwrdd a chysylltu gydag eraill, ymwneud gydag ein hamgylchedd, defnyddio mwy o’r sgiliau sydd gennych chi, neu ddatblygu sgiliau newydd gyda ni. Gallwch fod o dan do neu yn yr awyr agored, yn helpu gyda gwaith papur neu reoli’r goedwig, yn glyd a chynnes y tu mewn neu allan yn y glaw oer.

Dewch i siarad gyda ni am wirfoddoli ac fe wnawn ni ddod o hyd i weithgaredd sy’n gweddu ichi.

Llenwch y ffurflen ganlynol a'i hanfon drwy e-bost at info@golygfagwydyr.org neu gollwng copi printiedig yn ein Hadeilad Cymunedol.

Rhoddion

Yma yn Golygfa Gwydyr, rydym yn dibynnu ar gyllid grant i gefnogi ein gwaith ond anaml iawn y mae grantiau’n talu am bopeth. Yn aml iawn ni chaiff ein costau hanfodol i gadw ein drysau ar agor, gan gynnig gweithgareddau o safon a chreu gofod croesawgar a hollgynhwysol eu bodloni. Rydym bob amser wedi bod o’r farn na ddylai pobl ond allu manteisio ar ein gwasanaeth os ydyn nhw’n gallu talu amdano. Dyma pam fod popeth rydym ni’n ei gynnig yn rhad ac am ddim, fel y gallai unrhyw un, waeth beth ydy eu hamgylchiadau, gymryd rhan. Ond mae mwyfwy o alw yn y gymuned, a dydy cyllid grant yn unig ddim yn ddigon i’n cynnal.

Gall eich rhodd, waeth pa mor fach, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’n gymorth i ni aros ar agor, bodloni’r galw lleol, a pharhau i gynnig cyfleoedd i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf.

Os ydych chi’n gallu cefnogi Golygfa Gwydyr, gofynnwn yn garedig ichi gyfrannu isod drwy daliad ar-lein diogel. Fel arall, gallwch gyfrannu wyneb yn wyneb yn ein hadeilad cymunedol.

Aelodau'r CO-OP – Cronfa Gymunedol

Fel Aelod o’r Co-op, cewch ddewis Golygfa Gwydyr a byddwn ni’n cael cyfran o Gronfa’r Gymuned Leol.

Rydym yn buddsoddi mewn dillad brand a thabardau gwelededd uchel sy'n cynnwys logo Golygfa Gwydyr. Mae hyn nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o bwy ydym ni ond mae hefyd yn helpu i wneud ein tîm yn fwy gweladwy a hygyrch yn y gymuned.