Sesiynau Cerddoriaeth
Dydd Mawrth: 10:00 – 12:00. Adeilad Cymunedol

Pob dydd Mawrth rydym yn eich annog i ddod ag offeryn, eich llais neu eich clustiau gyda chi. Mae pob wythnos yn gwbl wahanol yn y sesiynau cerddoriaeth drws agored hyn. Mae yna amrywiaeth o gerddorion lleol sy’n ymuno, ynghyd â’r rheiny y mae’n well ganddyn nhw ganu neu wrando’n unig.
O’r gitâr, iwcalele, harmonica, ffidil, drymiau, offerynnau taro a hyd yn oed didgeridoo – caiff pawb eu hannog i ymuno ac awgrymu caneuon i’r grŵp eu hymarfer gyda’i gilydd. Caiff ystod eang o gerddoriaeth ei pherfformio – o The Beatles i REM i ganu Gwerin a’r Blŵs. Galwch mewn a mwynhewch y gerddoriaeth gyda llymaid a bisged.