Ein Tîm

Yma yn Golygfa Gwydyr, mae gennym dîm ymroddgar, llawn mynd sy’n gweithio ar ein prosiectau amrywiol. Mae gennym ystod o sgiliau a phrofiad ac yn rhannu’r un angerdd am ymgysylltu gydag a helpu ein cymuned.

Roger Davies
Ysgrifennydd y Cwmni a Rheolwr Cyffredinol
Annwyl, hyblyg ac an-fiwrocrataidd, dyma fi i’r dim. Rydw i wedi cyflawni sawl rôl ar ran Golygfa Gwydyr ers 2005 ond rwy’n mynd ati i ddod o hyd i gyllid ac yn rheoli ein safleoedd coedwig yn bennaf. Mae hyn yn golygu gallaf fod yn gweithio gyda llif gadwyn neu daenlen, gyda choed neu bobl, neu’r ddau’r un pryd. Dros fy mhechodau roeddwn i’n was sifil unwaith ond gwelais y goleuni mewn gwaith cymunedol, yr wyf bellach yn ymroi’r rhan fwyaf o fy amser iddo.

Sian Williams
Swyddog Lles
Rydw i’n gweithio gydag unigolion a sefydliadau perthnasol i gynnig Cyrsiau Lles mewn Natur un diwrnod a 6 wythnos yng Nghaerdroia, Coedwig Gwydir y gallai pobl gyfeirio’u hunain neu gael eu cyfeirio atyn nhw. O gymryd hoe fach mewn bath sain i gwrs 6 wythnos i hybu eich iechyd meddwl, mae’n bwysig bod pob un ohonom yn gofalu amdanom ni ein hunain. Rydw i’n gwnselydd cymwys sy’n gymorth imi gefnogi pobl yn ôl yr angen a chynnig lle diogel mewn sesiynau lles. Mae’n fraint imi allu cydweithio gyda phobl ymhlith natur a gweld sut mae hyn yn hybu eu lles a’u hiechyd meddwl.

Sarah Saunderson
Project Officer
Prior to joining our team in 2024 I was involved for many years with Golygfa Gwydyr both as a participant and a volunteer. Coming from a background in events management I’m passionate about creating opportunities to bring people together. Since organising the daytime event to ‘Ddarganfod Awyr y Nos’ rydw i wedi parhau gyda thema awyr y nos, gan greu digwyddiadau newydd i helpu hyrwyddo pwysigrwydd Awyr Dywyll. Rydw i hefyd yn cynorthwyo gyda chynnal rhai o’r gweithgareddau wythnosol yn Golygfa Gwydyr.

David John
Swyddog Coedwigaeth
Rydw i’n un o ddau Swyddog Coedwigaeth sy’n rheoli safle drysfa / labrinth Caerdroia a’r ardd gymunedol yng Nghoedwig Gwydir. Rydw i wrth fy modd yn gweithio ymhlith natur o blannu coed i baratoi’r safle ar gyfer sesiynau lles. Mae’n braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl yn dilyn y cyfle ges i gan Golygfa Gwydyr ac mae’n wych gweithio gyda chriw arbennig o bobl.

Stuart Easton
Swyddog Coedwigaeth
Cefais fy magu yn Nhrefriw, lle bu imi ddatblygu gwerthfawrogiad cryf at y cefn gwlad leol a’r amgylchedd naturiol. Rydw i wedi cymryd rhan mewn ystod o gynlluniau hyfforddiant, gan ennill profiad mewn sawl agwedd o reoli tir a datblygu set eang o sgiliau perthnasol. Bellach rydw i’n gwneud defnydd da o’r rhain yn ein safle coedwig, Caerdroia.
Fe wnes i gychwyn gwirfoddoli gyda Golygfa Gwydyr yn 2017 ac yn hwyrach ymlaen fe ges i fy nghyflogi i ddylunio a datblygu gardd goedwig, gan gydweithio gyda gwirfoddolwyr a chydweithwyr GG. Rydw i hefyd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at ymdrechion rheoli coedwig ar y safle.
Ar y cyd â David, rydw i hefyd yn gwirfoddoli fel gweithiwr cymorth, gan helpu i sicrhau bod y safle yn ddiogel a chaiff yr holl anghenion lles eu diwallu pan fo grwpiau’n ymweld.