Teithiau Cerdded yn y Goedwig

Mae teithiau cerdded yn y goedwig ymysg y teithiau mwyaf pleserus y gallwn ni eu mwynhau. Yng Nghoedwig Gwydir rydym yn ffodus iawn o allu mwynhau nifer o deithiau, rhai’n hawdd, rhai’n heriol, ond pob un ohonyn nhw’n gyfle ichi gymryd hoe fach, ymlacio a hybu’r meddwl a’r corff.
Mae Golygfa Gwydyr wedi llunio canllaw cerdded sy’n cychwyn o Lanrwst ac yn eich tywys ledled y dyffryn a fyny i’r Caerdroia. Mae’r daith oddeutu 5.8 milltir a gallai gymryd o leiaf 4 awr. Gallwch lawr lwytho’r map isod. Rydym yn gweithio ar raglen ffôn symudol a fydd yn eich tywys i’r safle o’ch ffôn, a bydd ar gael yn y dyfodol.
Mae mapiau Ordnance Survey ar gael yn lleol ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio nifer o ganllawiau cerdded ar gyfer yr ardal hon:

