Ein Cyfarwyddwyr

Mae gan Golygfa Gwydyr dîm o Gyfarwyddwyr gwirfoddol sy’n cynnig gwaith monitro a chefnogaeth barhaus, ynghyd â chymryd rhan mewn rhai o’n gweithgareddau a digwyddiadau.

Rosie Evans
Cefais fy magu yn y Canolbarth ac roeddwn yn Was Sifil am 20 mlynedd, gan symud o amgylch y wlad, cyn ymgartrefu yng Ngogledd Cymru lle bu imi briodi Cymro ac mae gennym ddau o blant.
Yna bûm yn gweithio i Gyngor Conwy fel Gweithiwr Ieuenctid gan ennill profiad yn gweithio mewn clybiau ieuenctid, clinigau iechyd pobl ifanc, ysgolion, gyda Gwobr Dug Caeredin a sefydlu grŵp cymorth i famau ifanc ar y cyd â Cychwyn Cadarn yn Llanrwst.
Fe wnes i weithio i Golygfa Gwydyr am 20 mlynedd cyn ymddeol ym mis Mawrth 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnes i ennill MA mewn Datblygu Cymunedol ym Mhrifysgol Bangor gan gychwyn a sefydlu prosiectau o dan ofal y gymuned megis Gwirfoddoli Ieuenctid, Crefftau a Chlebran, Coginio a Bwyta, Garddio Cymunedol a Nosweithiau Ffilm. Hefyd fe wnes i helpu i ennill cyllid ar gyfer gosod Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer a Phaneli Solar. Yn ystod cyfnod clo Covid aethom ati i sefydlu banc bwyd ar y cyd â’r Rotari, gan ei gynnal gyda gwirfoddolwyr Golygfa Gwydyr am 15 mis cyn trosglwyddo’r awenau’n ôl i Fanc Bwyd Conwy. Ar ôl Covid, fe wnes i lwyddo i ennill cyllid i gynnal Sesiynau Lles Cerddoriaeth angenrheidiol, Cwnsela a Therapi Tylino.
Rydw i wedi bod yn Gadeirydd Golygfa Gwydyr ers ei gyfansoddi yn 2004.

Liz Davies
Cefais fy ngeni yn Wyoming i fam Brydeinig a thad Americanaidd a chefais fy magu yn Omaha, Nebraska. Fe wnes i symud i Lundain ym 1984 gan ganolbwyntio ar yrfa mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau, lle’r oedd yn rhaid imi weithio mewn sawl bwyty i ddwyn dau ben llinyn ynghyd wrth gwrs. Unwaith y cafodd fy merch ei geni roedd yn rhaid imi ddod o hyd i swydd go iawn. Fe wnes i weithio yn y maes cyhoeddi am dair blynedd yna yn 2000 fe wnes i ymuno gydag asiantaeth hysbysebu foesegol yn Shoreditch, Llundain, C21 lle bûm yn goruchwylio adnewyddu swyddfa, ychwanegu llawr ychwanegol, ac yn Gynorthwyydd Personol i’r Rheolwr Gyfarwyddwr. Fe wnaethon nhw werthu’r cwmni ar ôl 911. Fe wnaethon nhw ddysgu llawer imi am gwmnïau gyda chydwybod.
Yn 2004 fe wnes i symud i Ogledd Cymru gyda fy ngŵr lle bu imi fynd i gyfarfod cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cabanau gwyliau yn Llyn Parc. Fe wnes i gwrdd â Rosie a wnaeth fy ngwahodd i gyfarfod gyda thrigolion lleol, a bu i hyn arwain at gychwyn Golygfa Gwydyr. Rydw i wedi bod yn Gyfarwyddwr/Trysorydd am 20 mlynedd bellach. Buom yn cwrdd yn nhai bob un o’r Cyfarwyddwyr am y chwe blynedd gyntaf, cyn bwrw iddi i brynu’r adeilad yn Llanrwst yn 2010. Fe wnes i berfformio ym mhob un o’r perfformiadau Caerdroia ar y safle am y chwe blynedd gyntaf. Fe wnes i greu’r Picnic Tylwyth Teg, sef digwyddiad plant ar y safle.
Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn eu harddegau ar ran Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy a Gofalwyr Ifanc WCD. Rydw i hefyd yn rhan o gast Pantomeim Nadolig Betws Y Coed ers pum mlynedd bellach.

Christine Fisher
Rydw i wedi bod gyda Golygfa Gwydyr ers y cychwyn. Fe wnes i gychwyn fel ymwelydd yna fe wnes i gynnal cyflwyniad i grefftau, i hyrwyddo dysgu a lles unigol a chymunedol. At hyn, roeddwn yn cynnal y sefydliad (MIND gynt) fel gwirfoddolwr. Fe wnes i gymryd yr awenau fel cyfarwyddwr yn Golygfa Gwydyr, yn dilyn cais ganddyn nhw, yn sgil fy nghefnogaeth barhaus tuag atyn nhw dros y blynyddoedd.
Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr am dros 20 mlynedd gan gynnwys cynorthwyo mewn digwyddiadau codi arian a helpu i drefnu a chynnal gweithgareddau arbennig, megis digwyddiadau Nadolig a Phen-blwydd, gan gynnwys gemau rydw i’n eu darparu gyda fy nghyfarpar fy hun, yn rhad ac am ddim. Yn ddiweddar fe wnes i gynnal sesiynau crefft arbennig ar ran Coleg Llandrillo a oedd yn llawer o hwyl ac yn llwyddiannus dros ben. Bu i Goleg Llandrillo dalu am fy amser a’r cyfarpar a ddefnyddiwyd ar gyfer 8 sesiwn ar Ddydd Llun. Roedd y rhain mor llwyddiannus fel fy mod yn parhau i gynnal y sesiynau hyn yn wirfoddol sy’n fuddiol i’r ganolfan gan fod y rheiny sy’n cymryd rhan yn cyfrannu tuag at flwch elusen GG.
Er nad ydw i’n weithiwr, mae gofyn imi agor y ganolfan ac ateb y ffôn pan nad ydy’r aelodau staff ar gael.

Alice Shah
Fe wnes i ddod i Golygfa Gwydyr yn wreiddiol drwy Mind Conwy pan roeddwn yn gofalu am fy chwaer. Fe wnaeth Golygfa Gwydyr gynnig cyfeillgarwch a chysylltiad imi. Wrth i amser fynd heibio fe wnes i gymryd mwyfwy o ran gyda’r gweithgareddau, yn enwedig y diwrnodau lles yn y goedwig.
Rydw i bellach yn mynychu sesiynau ar gyfer fy lles fy hun ac yn cynnig cymorth lle mae ei angen mewn sesiynau eraill. Mae’n wych bod yn Gyfarwyddwr i Golygfa Gwydyr erbyn hyn i gynnig help llaw a chynnig rhywbeth yn ôl.

Pete Borlace
Rydw i wedi bod ynghlwm â Golygfa Gwydyr am dros 10 mlynedd, gan gynorthwyo gyda phrosiectau dylunio graffeg a TG i gychwyn. Yn 2024 fe ofynnwyd imi ddod yn Gyfarwyddwr i gynorthwyo gyda gwaith rheoli prosiect, cymorth TG a chynllunio tua’r dyfodol. Rydw i wrth fy modd yn cynorthwyo gyda’r sesiynau cerddoriaeth wythnosol ar foreau dydd Mawrth ac o bryd i’w gilydd yn cynorthwyo’r tîm yn safle coedwig Caerdroia. Rydw i hefyd yn rheoli’r wefan Golygfa Gwydyr hon.