Ein Gwaith

Mae ein hadeilad cymunedol a’r safle coedwig yn adnodd er budd y gymuned, er mwyn inni allu cynnal digwyddiadau cymdeithasol, hyfforddiant, rheoli coedwigoedd, ac, yn bwysig, gweithgareddau lles. Mae’r goedwig yn adnodd cymunedol gwerth chweil, sydd wedi’i reoli gan staff a gwirfoddolwyr Golygfa Gwydyr i gynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau iach yn yr awyr agored, sesiynau lles, dysgu a chymryd rhan drwy wirfoddoli. Mae theatr ar y safle yn ogystal (labrinth Caerdroia), ynghyd â gardd goedwig a digon o le i fwynhau ac ymlacio.

Gweithgareddau Golygfa Gwydyr

Lles

Yn nyfnderoedd Coedwig Gwydir rydym yn rheoli safle o’r enw Caerdroia (labrinth) lle’r ydym yn cynnig sesiynau a chyrsiau lles sy’n seiliedig ar natur.

Caerdroia

Mae’r Caerdroia yn Labrinth Coedwig parhaol, wedi’i reoli a’i gynnal gan Golygfa Gwydyr, gwirfoddolwyr, a’r gymuned.

Gardd Goedwig

Mae’r Ardd Goedwig yng Nghaerdroia, Coedwig Gwydir, wedi’i reoli gan ein tîm ac rydym yn annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan a chynnig help llaw.

Grŵp Crefftau

Mae ein sesiynau ‘Crefftau a Chlebran’ o dan arweiniad Christine, sy’n meddu ar gyfoeth o brofiad, lle gallwch rannu neu ddod â’ch prosiectau eich hun i weithio arnyn nhw.

Grŵp Cyfeillgarwch

Ymunwch gydag ein Grŵp Cyfeillgarwch mewn lle braf, croesawgar lle gallwch ymlacio, mwynhau sgyrsiau gwerth chweil a rhannu troeon bywyd.

Sesiynau Cerddoriaeth

Pob dydd Mawrth rydym yn eich annog i ddod ag offeryn, eich llais neu eich clustiau gyda chi. Mae pob wythnos yn gwbl wahanol yn y sesiynau cerddoriaeth drws agored hyn.

Grŵp Sied y Dynion

Mae grŵp Sied y Dynion yma i annog pobl i ddod ynghyd a chreu prosiectau ar gyfer y gymuned.

Sesiynau Tylino

Jan ydy ein therapydd tylino preswyl. Mae ei thechnegau arobryn yn cael effaith gadarnhaol ac uniongyrchol ar ein lles cyfannol.

Digwyddiadau Awyr y Nos

Mae Golygfa Gwydyr wedi bod yn cynnal digwyddiadau i ddysgu am awyr y nos a phwysigrwydd y fenter Awyr Dywyll i ‘Ddiogelu’r Nos’.

Rheoli Coetir

Mae Golygfa Gwydyr yn rheoli oddeutu 15 hectar o Goedwig Gwydir. Mae’r safle oddeutu 300m o uchder yn ardal Parc Uchel.

Teithiau Cerdded yn y Goedwig

Rydym yn ffodus iawn o allu cynnig nifer o lwybrau cerdded yng Nghoedwig Gwydir, lle gallai pobl eu mwynhau mewn heddwch a hybu eu hiechyd meddwl a chorfforol.