Cyllid

Sefydliad a ariennir gan grantiau ydy Golygfa Gwydyr ac mae wedi llwyddo i ennill cyllid tymor byr a hirdymor i gynnal ein gwaith.
Gyda’r cyllid hwn, rydym wedi gallu prynu a chynnal ein hadeilad yn Llanrwst, yn ogystal â rheoli a datblygu ein safle coedwig yng Nghaerdroia. At hyn, mae’r grantiau wedi cyfrannu tuag at gyflogau staff a darparu adnoddau hanfodol i gynnig ystod eang o weithgareddau cymunedol.
Rydym wedi derbyn cyllid gan gyrff sylweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cronfa’r Loteri Treftadaeth, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ynghyd â chefnogaeth gan nifer o sefydliadau ariannu llai.

