Ein Hanes

Dyma hanes cryno Golygfa Gwydyr, o sefydlu yn 2003, hyd at ein sefyllfa gyfredol dros 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Founding

Yn 2003/2004, ffurfiwyd grŵp gweithredu mewn ymateb i gynnig y Comisiwn Coedwigaeth i adeiladu hyd at 100 caban ger ymyl Llyn Parc. Roedd y grŵp yn griw o drigolion lleol yn bennaf – nifer ohonyn nhw heb gwrdd o’r blaen – ond fe wnaethon nhw ddarganfod yn ddigon buan pa mor effeithiol y gallan nhw gydweithio gyda’i gilydd drwy gyfuno eu sgiliau a’u rhwydweithiau amrywiol.

Unwaith y bu iddyn nhw gyflawni’r nod uniongyrchol a herio’r cynnig yn llwyddiannus, fe chwalodd y grŵp. Fodd bynnag, fe wnaeth y profiad adael argraff hirhoedlog. Cafodd un aelod, yn enwedig, ei daro gan effaith gadarnhaol cymuned unedig a phenderfynol. Daeth i’r amlwg hefyd bod trigolion Coedwig Gwydyr gwledig – ar wasgar ledled sawl ffin plwyf – yn cael eu tangynrychioli’n aml ac anaml yr ymgynghorwyd â nhw ar benderfyniadau amgylcheddol sylweddol sy’n effeithio ar eu bywydau a’u bywoliaeth.

Yn sgil sylweddoli hyn, cafodd y trigolion eu gwahodd i gyfarfod cyhoeddus yng Ngorffennaf 2004 i drafod y syniad o ffurfio grŵp cymunedol. Oddeutu’r un pryd, roedd y sefydliad celfyddydau cymunedol Cynefin yn chwilio am bartneriaid ar gyfer prosiect ar y cyd i greu labrinth yn y goedwig. Mynychodd gynrychiolydd o Cynefin gyfarfod i gyflwyno’r cysyniad, a’r grŵp yn uniaethu gyda hynny. Cynefin was seeking partners for a collaborative project to create a labyrinth in the forest. A representative from Cynefin attended the meeting to introduce the concept, which resonated with the group.

Roedd y cyfarfod dan ei sang, a bu i bum person ymrwymo i ffurfio grŵp newydd. Ymunodd dau ychwanegol yn y cyfarfod canlynol ac o ganlyniad fe ffurfiwyd Golygfa Gwydyr.

Caerdroia

Hyd at 2014 roedden ni’n canolbwyntio’n bennaf ar ddigwyddiadau yn ein safle coedwig, Caerdroia. Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf ym mis Gorffennaf 2025. Roedd yn ddigwyddiad theatr labrinth synhwyraidd 4 wythnos o hyd gyda’r nos ac yn ystod y nos. Ers hynny, rydym wedi cynnal saith digwyddiad labrinth mawreddog gan gynnwys Ysbrydnos yn 2007, Eco Panto yn 2010, Mid-Summer Murders yn 2013, a Fear yn 2014.

Yn 2024 aethom ati i ailwampio’r profiad labrinth synhwyraidd gyda The Art of Looking at Ourselves a byddwn yn ategu hyn gyda lwc ar gyfer perfformiadau yn y dyfodol. Yn ogystal â pherfformiadau llawn rydym wedi defnyddio’r safle ar gyfer digwyddiadau eraill megis picnics Tylwyth Teg, diwrnodau adrodd straeon, a gwyliau megis Dafydd ap Siencyn yn 2023 a 2024.

Adeilad Cymunedol

Yn 2011 fe wnaethom lwyddo i brynu adeilad gwag yn Llanrwst a oedd yn eiddo i Gyngor Conwy. Fe wnaethom dderbyn grant Ymddiriedolaeth Tudor i brynu’r adeilad, a grant Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru i ailwampio ac adnewyddu’r tu mewn.

Ers hynny rydym wedi ehangu ein gweithrediadau i gynnig gwasanaethau cymunedol. Ymhlith y gwasanaethau hyn roedd Clwb Swyddi, cynnal Cyngor Ar Bopeth, Cyfraith Gymunedol, Cymdeithas Preswylwyr Cartrefi a phrosiectau Coleg Llandrillo. Rydym yn cynnal sesiynau cymdeithasol rheolaidd gan gynnwys Sied y Dynion, Grŵp Cyfeillgarwch, grwpiau Crefftau, a cherddoriaeth, gyda rhai o’r rhain yn dod yn lled-ymreolaethol â’u cyfrifon banc eu hunain.

Prosiectau Diweddar

Yng Nghaerdroia rydym wedi ehangu ein gweithrediadau i reoli coedwigoedd. Rydym wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i weithredu Systemau Rheoli Cynaliadwy i wella cydnerthedd safleoedd o ran newid mewn hinsawdd, ac i ddatblygu’r safle fel adnodd cymunedol. Yn ddiweddar bu i grant Cronfa’r Loteri Treftadaeth ein galluogi i ddatblygu’r safle i hybu lles, gan gynnal nifer o ddigwyddiadau meddylgarwch ac ymdrochi yn y goedwig. Rydym bellach yn cynnal gweithgareddau Ysgol Goedwig yn ystod yr haf, digwyddiadau Bioblitz i fonitro bywyd gwyllt a chynefinoedd, ac wedi cyfuno meddylgarwch a diwrnodau gwirfoddoli i helpu cynnal y safle.