Lles

Dydd Mercher / dydd Iau: Caerdroia, Coedwig Gwydir / Adeilad Cymunedol

Yn nyfnderoedd Coedwig Gwydir rydym yn rheoli safle o’r enw Caerdroia (labrinth) lle’r ydym yn cynnig sesiynau a chyrsiau lles sy’n seiliedig ar natur wedi’u harwain a’u cydlynu gyda phartneriaid gan ein Swyddog Lles a Chwnselydd, Sian Williams.

Rydym yn gweithio gan fanteisio ar y tymhorau ac yn cynnal sesiynau ar y safle am y rhan helaeth o’r flwyddyn. Yn ystod misoedd y gaeaf rydym yn rhoi hoe fach i’r safle ac yn cynnal ein sesiynau sy’n seiliedig ar natur yn ein hadeilad yn y dref neu’r cefn gwlad o’n cwmpas.

Ein nod ydy cynnig cyfle i gysylltu gyda ni’n hunain, natur a’r gymuned i hybu lles drwy ddatblygu model cynaliadwy mewn ymateb i adborth defnyddwyr a chydymffurfio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).

Rydym wedi datblygu model sy’n fodd i unigolion deilwra ein cynnig lles i ddiwallu eich anghenion chi e.e. Gallwch gychwyn gyda Chwnsela ac yna’n dymuno parhau gydag ein sesiynau lles misol neu gallwch ymuno gyda ni mewn sesiwn lles misol.

Rydym yn cydweithio gyda darparwyr, sefydliadau a grwpiau lleol. Cliciwch ar y dolenni isod os gwelwch yn dda i weld beth allwn ni ei gynnig. Gallwch gael eich cyfeirio neu gallwch gyfeirio’ch hun at unrhyw un o’r opsiynau hyn, yn dibynnu ar yr hyn sy’n diwallu eich anghenion orau.

Dewisiadau Llesiant

Sesiynau Lles Misol

Diwrnod yn y goedwig neu yn ein hadeilad cymunedol.

Cyrsiau Lles mewn Natur

4 neu 6 sesiwn diwrnod dros gyfnod o 4 neu 6 wythnos yn y goedwig neu yn ein hadeilad cymunedol.

Sesiynau Lles wedi’u Teilwra

Wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion eich grŵp/cleientiaid. Naill ai yn y goedwig neu’r adeilad cymunedol.

Cwnsela

Sesiynau Cerdded a Chlebran yn y goedwig neu yn adeilad Golygfa Gwydyr yn Llanrwst.