Sesiynau Lles Misol
Sesiynau 1 diwrnod rhad ac am ddim:Caerdroia, Coedwig Gwydir

Rydym yn cynnal amrywiaeth o sesiynau lles misol o faths sain yn y goedwig, fforio tymhorol, ymdrochi yn y goedwig, meddylgarwch, Gwylltgrefft, gwaith coed gwyrdd, creu basgedi, dathliadau Samhain a Beltane i ysgrifennu creadigol, tynnu llun a cherddoriaeth. Yn ystod misoedd y gaeaf rydym yn rhoi hoe fach i’r safle coedwig ac yn cynnal sesiynau misol o Lanrwst.
Arweinwyr Sesiynau
- Sian Williams, Swyddog Lles a Chwnselydd ar ran Golygfa Gwydyr
- Darparwr arbenigol ar gyfer y sesiwn e.e. fforiwr
Nodau
Cysylltu gyda natur drwy wahoddiadau a gweithgareddau ystyriol gan ddefnyddio ein synhwyrau i greu effaith gadarnhaol ar ein lles, iechyd corfforol, iechyd meddwl, hapusrwydd a’r gymuned.

Mae’r Sesiynau hyn yn arbennig ar gyfer
Unrhyw un sy’n awyddus i fwynhau hoe fach.
Pobl sy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored.
Pobl sy’n awyddus i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored i hybu eu lles.
Pobl sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut mae cysylltu gyda natur yn hybu ein lles.
Cynllun ar gyfer pob sesiwn
- 10.30yb bws mini o Golygfa Gwydyr, Stryd yr Aradr, Llanrwst LL26 0AG, 01492 642110, i Gaerdroia, Coedwig Gwydir. Bydd y daith hon yn cymryd oddeutu 20/30munud.
- 11yb Croeso, daearu a chyrraedd gyda gweithgareddau’r bore yn dilyn hynny
- Egwyl cinio 30munud
- Gweithgareddau’r prynhawn a myfyrio
- 2yp gadael Caerdroia i ddychwelyd yn nôl i Golygfa Gwydyr erbyn 2.30yp
Cofiwch y canlynol
- Bocs bwyd a diod. Bydd gennym dân bach lle gallwn ferwi dŵr ar gyfer diodydd poeth.
- Digonedd o ddillad cynnes ac sy’n dal dŵr, ac eli haul os oes angen. Mae yna loches ar y safle ac rydym yn parhau os ydy hi’n bwrw.
- Byddwn yn cadw llygad ar y tywydd, mae gennym gynllun B os oes angen ac fe wnawn ni roi gwybod ichi cyn gynted â phosibl os ydym ni am roi cynllun B ar waith.
- Esgidiau addas ar gyfer llwybrau a thraciau’r goedwig.
- Meddyginiaeth sydd ei angen arnoch chi.

Parcio
Mae ychydig iawn o leoedd parcio o flaen Golygfa Gwydyr sy’n llenwi’n sydyn. Mae yna ragor o leoedd parcio yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Ffordd yr Orsaf, Llanrwst, LL26 0DS. Cofiwch neilltuo 5 munud i gerdded o fama i Golygfa Gwydyr. Mae amser parcio yn y Co-op sydd gyferbyn â Golygfa Gwydyr yn gyfyngedig ac ni fydd yn ddigon hir ar gyfer y sesiwn.
Ar y Safle yng Nghaerdroia
- Mae yna loches fach, seddi a thân.
- Tŷ bach Compost.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein sesiynau lles misol, e-bostiwch: sianw@golygfagwydyr.org




