Cyrsiau Lles mewn Natur
We offer 6 week Wellbeing in Nature courses and a 4 week Calm Christmas course. Please see the details below.
Lles mewn Natur
Cwrs 6 Wythnos Rhad ac Am Ddim (1 diwrnod yr wythnos): Caerdroia, Coedwig Gwydir

Ymlacio – Creadigrwydd – Meddylgarwch – Ymdrochi yn y Goedwig – Cymunedol
Arweinwyr y Cwrs
Cwnselwyr ac ymarferwyr Lles sydd wedi’u cofrestru gyda’r BACP.

Sian Williams

Louise Cook
Diwrnod a Hyd y Cwrs
Dydd Iau. 10:30 – 14:30. Am 6 wythnos.
Nodau
Cysylltu gyda natur drwy wahoddiadau a gweithgareddau ystyriol gan ddefnyddio ein synhwyrau i greu effaith gadarnhaol ar ein lles, iechyd corfforol, iechyd meddwl, hapusrwydd a’r gymuned.
Mae’r Cwrs hwn yn arbennig ar gyfer
Pobl sy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored.
Pobl sy’n awyddus i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored i hybu eu lles.
Pobl sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut mae cysylltu gyda natur yn hybu ein lles.
Rydym yn eich annog i fynychu’r 6 sesiwn oherwydd po fwyaf o amser rydych chi’n ei dreulio ymysg natur, y mwyaf o fuddion gallwch fanteisio arnyn nhw.
Sesiynau Enghreifftiol:
- Wythnos 1 – Gweld Natur o’r Newydd
- Wythnos 2 – Cysylltu gyda Natur
- Wythnos 3 – Clywed Natur o’r Newydd
- Wythnos 4 – Presenoldeb mewn Natur
- Wythnos 5 – Teimlo Natur o’r Newydd
- Wythnos 6 – Beth sy’n dod nesaf

Cynllun ar gyfer pob diwrnod
- 10:30 - bws mini o Golygfa Gwydyr, Stryd yr Aradr, Llanrwst LL26 0AG, 01492 642110, i Gaerdroia, Coedwig Gwydir. Bydd y daith hon yn cymryd oddeutu 20/30munud
- 11:00 - Croeso, daearu a chyrraedd gyda gweithgareddau’r bore yn dilyn hynny
- Egwyl cinio 30munud
- Gweithgareddau’r prynhawn a myfyrio
- 14:00 - gadael Caerdroia i ddychwelyd yn nôl i Golygfa Gwydyr erbyn 14:30
Parcio
Mae ychydig iawn o leoedd parcio o flaen Golygfa Gwydyr sy’n llenwi’n sydyn. Mae yna ragor o leoedd parcio yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Ffordd yr Orsaf, Llanrwst, LL26 0DS.
Cofiwch neilltuo 5 munud i gerdded o fama i Golygfa Gwydyr. Mae amser parcio yn y Co-op sydd gyferbyn â Golygfa Gwydyr yn gyfyngedig ac ni fydd yn ddigon hir ar gyfer y sesiwn.
Ar y Safle yng Nghaerdroia
- Mae yna loches fach, seddi a thân
- Tŷ bach Compost
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Les mewn Natur, e-bostiwch: sianw@golygfagwydyr.org

Digwyddiadau ar y gweill
Dod o Hyd o i Heddwch yn Goedwig
Llesiant i Ymarferwyr Iechyd
Cwrs 6 wythnos am ddim (1 diwrnod yr wythnos ar ddydd Gwener), Caerdroia, Coedwig Gwydyr

Gorffwyswch yn y goedwig - Seiliwch ac ail-egniwch yn natur
Arweinwyr y Cwrs
Cwnselwyr ac ymarferwyr Lles sydd wedi’u cofrestru gyda’r BACP.

Louise Cook

Sian Williams
Diwrnod a Hyd y Cwrs
Dydd Iau. 10:30 – 14:30. Am 6 wythnos.
Nodau
Darparu rhaglen lles adferol sy'n seiliedig ar natur ar gyfer ymarferwyr iechyd, gan ddangos sut y gall amser yn y goedwig helpu i gael gwared ar straen ac adfer cydbwysedd mewnol.
Mae’r Cwrs hwn yn arbennig ar gyfer
Ymarferwyr iechyd o unrhyw wasanaeth/asiantaeth sydd angen gorffwys, llonyddwch, caredigrwydd, hunan-dosturi, tosturi. Pwy fyddai yn hoffi amser i fyfyrio ar eu hanghenion eu hunain i ffwrdd o'u byd prysur o waith ac a fyddai'n mwynhau ymarferion adferol gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, anadlu, delweddu, symud, myfyrdod, creadigrwydd a dod o hyd i lonyddwch.
Sesiynau Enghreifftiol:
- Wythnos 1 - Bod
- Wythnos 2 - Cysylltu
- Wythnos 3 - Symud
- Wythnos 4 - Casglu
- Wythnos 5 - Archwilio
- Wythnos 6 - Adfer

Cynllun ar gyfer pob diwrnod
- 10:30 - bws mini o Golygfa Gwydyr, Stryd yr Aradr, Llanrwst LL26 0AG, 01492 642110, i Gaerdroia, Coedwig Gwydir. Bydd y daith hon yn cymryd oddeutu 20/30munud
- 11:00 - Croeso, daearu a chyrraedd gyda gweithgareddau’r bore yn dilyn hynny
- 11:15 - Sesiwn y Bore
- 12:15 - Cinio
- 12:45 - Sesiwn Prynhawn
- 13:45 - Myfyrio a Chynulliad
- 14:00 - Gadael Caerdroia ar fws mini
- 14:30 - Cyrraedd Golygfa Gwydyr
Parcio
Mae ychydig iawn o leoedd parcio o flaen Golygfa Gwydyr sy’n llenwi’n sydyn. Mae yna ragor o leoedd parcio yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Ffordd yr Orsaf, Llanrwst, LL26 0DS.
Cofiwch neilltuo 5 munud i gerdded o fama i Golygfa Gwydyr. Mae amser parcio yn y Co-op sydd gyferbyn â Golygfa Gwydyr yn gyfyngedig ac ni fydd yn ddigon hir ar gyfer y sesiwn.
Ar y Safle yng Nghaerdroia
- Mae yna loches fach, seddi a thân
- Tŷ bach Compost
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Dod o Hyd i Heddwch yn y Goedwig, e-bostiwch Sian: sianw@golygfagwydyr.org neu Louise: cookcounselling@icloud.com

Digwyddiadau ar y gweill
Nadolig Tawel
Cwrs 4 Wythnos Rhad ac am Ddim (1 diwrnod yr wythnos): Adeilad Cymunedol

Tawel – Ystyriol – Creadigol – Cymunedol
Arweinwyr y Cwrs
Cwnselwyr ac ymarferwyr Lles sydd wedi’u cofrestru gyda’r BACP.

Sian Williams

Louise Cook
Diwrnod a Hyd y Cwrs
Dydd Iau. 13:00 – 16:00. Am 4 wythnos.
Nodau
Cyfnod ystyriol cyn y Nadolig gyda chwa o ysbrydiolaeth o’r byd natur.
Mae’r Cwrs hwn yn arbennig ar gyfer
Pobl sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod tymor y Nadolig, sydd efallai’n teimlo o dan bwysau, wedi’u gorlethu neu sy’n cael trafferth gyda cholled.
Pobl sydd angen hoe fach.
Pobl sy’n awyddus i fod mewn amgylchedd cymdeithasol braf i fod yn greadigol ac yn ystyriol heb unrhyw bwysau. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol.
Sesiynau Enghreifftiol:
- Wythnos 1: Creu cardiau a phapur lapio, meddylgarwch
- Wythnos 2: Creu llyfr nodiadau, meddylgarwc
- Wythnos 3: Creu torch, meddylgarwch
- Wythnos 4: Maethu a Meithrin, hunan-ofal

Parcio
Mae ychydig iawn o leoedd parcio o flaen Golygfa Gwydyr sy’n llenwi’n sydyn. Mae yna ragor o leoedd parcio yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Ffordd yr Orsaf, Llanrwst, LL26 0DS. Cofiwch neilltuo 5 munud i gerdded o fama i Golygfa Gwydyr. Gallwch barcio yn yn y Co-op sydd gyferbyn â Golygfa Gwydyr am hyd at 3 awr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Nadolig Tawel, e-bostiwch: sianw@golygfagwydyr.org



