Gardd Goedwig

Caiff yr Ardd Goedwig yng Nghaerdroia, Coedwig Gwydir, ei rheoli gan ein tîm ac rydym yn annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan a chynnig help llaw drwy gydol y flwyddyn.

Yn 2021 bu i storm ogleddol gref chwythu adran sylweddol o goed yng Nghaerdroia i’r llawr. Fe gymrodd amser i glirio’r coed a sicrhau bod y safle yn ddiogel unwaith eto. Fe wnaeth hyn newid y safle yn gyfan gwbl ac roedd yn llawer mwy agored. Bellach mae gardd goedwig wedi’i hychwanegu at y safle gyda mathau traddodiadol Cymreig o goed ffrwyth, gellyg, afalau, coed ceirios a llwyni eraill wedi’u plannu yno.

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gwella’r pridd yn yr ardd goedwig gyda haenau o gardbord a sglodion coed i gydbwyso’r asidedd o’r coed pinwydd a oedd yno’n flaenorol. Mae’r prosiect ond ar fin cychwyn gyda llawer mwy i’w gyflawni yn y dyfodol.

Caiff sesiynau lles eu cynnal yn fisol ar y safle. Mae yna hefyd gyfleoedd gwirfoddoli ar gael.