Sied y Dynion
Dydd Iau: 10:30 – 12:30. Adeilad Cymunedol

Nod y grŵp Sied y Dynion yn Llanrwst ydy annog pobl i ddod ynghyd a chreu prosiectau ar gyfer y gymuned. Rydym yn grŵp cyfeillgar ac rydym bob amser yn chwilio am bobl i ymuno gyda ni.
Mae Sied y Dynion yn gymdeithas genedlaethol a grëwyd i hybu lles, lleihau unigrwydd a mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol. Sefydlwyd Sied y Dynion Llanrwst dros 15 mlynedd yn ôl ac maen nhw’n gweithredu yn adeilad cymunedol Golygfa Gwydyr. Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni ar gyfer ein sesiynau wythnosol, bob bore Iau 10yb – 12yp, lle’r ydym yn mwynhau sgyrsiau cyffredinol a gweithio ar brosiectau cadarnhaol.
Dros y blynyddoedd rydym wedi dylunio a chreu prosiectau cymunedol, gan helpu pobl i gydweithio a meithrin cyfeillgarwch parhaol. Dyma rai o’n prosiectau a gweithgareddau:
- Gweithio gyda choed
- Blychau plannu planhigion
- Meinciau Parc
- Saethyddiaeth
- Garddio

Dewch draw i sesiwn
Mae croeso ichi ddod draw i sesiwn Sied y Dynion. Os hoffech chi gysylltu gyda Sied y Dynion, cysylltwch gyda Wilf Philips ar phillipswilf31@gmail.com