Mwy am Golygfa Gwydyr

Mae Golygfa Gwydyr yn sefydliad cymunedol yn Llanrwst ac rydym yma i gefnogi ein cymunedau cefn gwlad lleol gan ddefnyddio’r adnoddau naturiol o’n cwmpas. Mae gennym adeilad cymunedol yn Llanrwst, lle mae croeso mawr i bawb, ynghyd â 15 hectar o Goedwig Gwydyr sydd o dan Gytundeb Rheoli Cymunedol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr yn byw’n lleol ac rydym wedi ein hariannu gan grantiau a rhoddion.

Ein Nod

Ein nod ydy meithrin cysylltiad a lles yn ein cymunedau gan gynnig profiadau sy’n seiliedig ar gymryd rhan mewn gweithgareddau natur a’r celfyddydau. Drwy ddigwyddiadau yn ein hadeilad ac ein safle coedwig, Caerdroia, rydym yn meithrin lleoedd lle gallai pobl ymwneud gyda’u lles eu hunain, cymryd rhan gydag eraill, a chysylltu gyda’r amgylchedd.

Adrannau Amdanom Ni

Ein Tîm

Mae gennym dîm ymroddgar, llawn mynd sy’n meddu ar ystod o sgiliau a phrofiad ac rydym yn rhannu’r un agerdd am ymgysylltu gydag a helpu ein cymuned.

Gwerthoedd Craidd

At Golygfa Gwydyr we have a guiding set of Core Values that we ask all users to respect and follow, helping us build a stronger community.

Cyllid

Sefydliad a ariennir gan grantiau ydy Golygfa Gwydyr ac mae wedi llwyddo i ennill cyllid tymor byr a hirdymor i gynnal ein gwaith.

Ein Cyfarwyddwyr

Mae ein Cyfarwyddwyr gwirfoddol yn cynnig gwaith monitro a chefnogaeth barhaol, yn ogystal â chymryd rhan yn rhai o’n gweithgareddau a digwyddiadau.

Partneriaethau

Yma yn Golygfa Gwydyr, mae cydweithio yn annatod i’n holl waith. Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein heffaith.

Gwerthusiadau

Mae'n bwysig i ni fod y gwasanaethau a ddarparwn yn diwallu anghenion ein cyfranogwyr yn wirioneddol, eu bod yn ddefnyddiol, yn ystyrlon, ac yn bleserus.

Ein Hanes

Hanes cryno Golygfa Gwydyr, o sefydlu yn 2003, hyd at uchafbwyntiau prosiectau amrywiol dros y 20 mlynedd diwethaf.