Caerdroia, Coedwig Gwydir

Mae’r Caerdroia yn Labrinth Coedwig parhaol, wedi’i greu yng Nghoedwig Gwydir, ac sydd wedi’i reoli a’i gynnal gan Golygfa Gwydyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned.
Mae Caerdroia yn safle i gynnal gweithgareddau Lles, digwyddiadau, hyfforddiant a pherfformiadau, gan gynnwys y Theatr Labrinth Synhwyraidd enwog. Caiff Caerdroia ei reoli’n gynaliadwy ar gyfer bioamrywiaeth ac mae’n gartref i ardd goedwig gyda lloches a thŷ bach compost.
Digwyddiadau yng Nghaerdroia
Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf ym mis Gorffennaf 2005. Roedd yn ddigwyddiad theatr labrinth synhwyraidd enfawr 4 wythnos o hyd a gynhaliwyd gyda’r nos ac yn ystod y nos. Ers hynny rydym wedi cynnal saith digwyddiad labrinth mawreddog gan gynnwys Ysbrydnos yn 2007, Eco Panto yn 2010, Mid-Summer Murders yn 2013, a Fear yn 2014. Yn 2024 aethom ati i adfywio’r profiad labrinth synhwyraidd gyda The Art of Looking at Ourselves a byddwn yn ategu hyn gyda lwc ar gyfer perfformiadau yn y dyfodol. Yn ogystal â pherfformiadau llawn, rydym wedi defnyddio’r safle ar gyfer digwyddiadau eraill megis picnic Tylwyth Teg, diwrnodau adrodd straeon, a gwyliau megis Dafydd ap Siencyn yn 2023 a 2024.
