Dod o Hyd i Heddwch yn y Goedwig i Staff y GIG

Adroddiad interim: Cwrs Llesiant 6 wythnos, 2025

Dod o Hyd i Heddwch yn y Goedwig: Taith Llesiant i Ymarferwyr Gofal Iechyd. Darllenwch am y cwrs 6 wythnos hwn a darganfod beth oedd yn ei olygu a beth oedd barn y cyfranogwyr amdano.

Crynodeb

Yn wir mae’r byd gofal iechyd yn llawn prysurdeb felly gallai eiliad neu ddau o lonyddwch deimlo fel nefoedd ar y ddaear. Fodd bynnag, yn ddiweddar daeth grŵp o ymarferwyr gofal iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarganfod gwir fantais cymryd hoe fach, anadlu’n ddwfn ac ail-gysylltu gyda’r byd naturiol. Gyda’n gilydd, fe wnaethom gwblhau rhaglen lles unigryw ym mherfeddion Coedwig Gwydir; profiad a gynigiodd cyfle i orffwys ond i adfywio’n ogystal.

Fe wnaeth Golygfa Gwydyr greu’r cwrs seiliedig ar natur hwn yn arbennig ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd oedd yn teimlo wedi’u llethu gan bwysau cyfrifoldeb parhaus, blinder tosturi a straen emosiynol. Roedd diben y cwrs yn syml ond yn bwerus: cynnig noddfa ar gyfer ymlacio, caredigrwydd, hunan-dosturi, ac adfywio gan ddangos sut mae treulio amser ymhlith coed yn fodd o dawelu’r meddwl ac adfer cydbwysedd.

Rhaglen

Pob wythnos roedd y rhaglen yn ymdrin â thema graidd, gan dywys y rheiny oedd yn cymryd rhan yn ofalus i fwrw golwg dyfnach ar eu lles a chysylltu gyda’r goedwig o’u cwmpas. Bu i’r themâu hyn lywio profiadau ar y cyd y grŵp a chynnig safbwyntiau newydd o ran sut gallai natur helpu gydag adfer.

Bodoli – Gwahoddiad i fodoli’n syml : i gymryd hoe fach, anadlu’n ddwfn a sylwi ar eich hunain yng nghanol y byd naturiol tawel.

Cysylltu – Dysgu i ddaearu’ch hun yn y goedwig, i deimlo’i sefydlogrwydd a’i rhythm, ac i ail-ddarganfod cysylltiad – gyda natur a chi’ch hun.

Symud – Ymchwilio sut gallai symud meddylgar roi hwb i’ch hwyliau, rhyddhau tyndra a chryfhau eich lles cyffredinol.

Casglu – Caniatáu i’r goedwig ysbrydoli eglurder a chreadigrwydd, gan gynnig rhywle i gasglu’ch meddyliau a meithrin syniadau personol.

Ymchwilio – Ymarfer y grefft o gerdded dow i dow ar hyd y dirwedd, heb unrhyw frys, yn agored a gyda chwilfrydedd gan sylwi ar sut mae natur yn llwyddo i dawelu’r meddwl.

Adfer – Agor y galon a’r meddwl i faeth y goedwig, gan brofi sut mae bod ymysg natur yn hybu’ch egni.

Effeithiau a Chanlynoadau

Gyda’i gilydd, bu i’r themâu hyn lunio taith bwerus o ail-gysylltu, daearu ac adfywio; gan ein hatgoffa bod lles yn ymarfer yn ogystal ag yn llwybr yn y bôn, llwybr sydd yn fwyaf effeithiol yn aml os ewch chi ati i’w throedio ymysg y coed. Yn ystod sawl sesiwn ymdrochol, roedd cyfle i’r ymarferwyr gymryd cam yn ôl o bwysau bywyd clinigol a chamu i mewn i dirwedd a oedd yn annog myfyrio ac iacháu. Roedd y gweithgareddau dan arweiniad yn gwahodd pawb i roi’r gorau i ruthro a chael eu gwynt atynt. Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar feddylgarwch: anadlu’n ysgafn ac ymarferion gweledol, myfyrdodau symud a llonyddwch, a sesiynau creadigol a myfyrio, i gyd yn awyrgylch braf y goedwig.

Roedd y rhaglen yn adfywio’r unigolion ar y pryd ond roedd hefyd â’r nod o drosglwyddo’r adnoddau ymarferol i’r ymarferwyr allu manteisio arnyn nhw ymhell ar ôl iddyn nhw adael y goedwig. Derbyniodd pob un o’r ymarferwyr ddyddlyfr personol i nodi mewnwelediadau, arsylwadau a strategaethau ymdopi a fyddai’n fodd o feithrin cydbwysedd yn eu bywyd dydd i ddydd a hybu eu lles hirdymor.

Bu i’r daith ar y cyd hon drwy natur ein hatgoffa nad yw iacháu yn berthnasol i’n cleifion yn unig, mae’n bwysig ein bod ni’n ceisio iacháu ein hunain hefyd. Weithiau, yr oll sydd angen inni ei wneud yw dilyn y llwybr i’r goedwig i sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn.

Sylwadau o'r cwrs

‘Mae’r manteision wedi bod yn gymorth imi yn bersonol, ond yn broffesiynol yn ogystal. Rwy’n teimlo’n fwy sefydlog a chytbwys i allu rheoli’r heriau yn y gwaith ac adref.’ 

‘Byddaf yn argymell y rhaglen hon yn gryf i unrhyw un sy’n gweithio yn y GIG gan fod pawb yn gweithio mor galed ac mae angen hoe fach arnyn nhw.’ 

‘Mae’n bwysig fod holl uwch aelodau’r ymddiriedolaeth a phenaethiaid adrannau’n ymwybodol o hyn i’w drafod mewn timau. Gallai goruchwylwyr ac arweinwyr tîm atgyfeirio. Rydw i hefyd yn meddwl y dylai bod staff yn gallu hunan-gyfeirio.’ 

‘Byddai cleifion o bob oedran yn elwa o’r rhaglen hwn – mae’n cyd-fynd gyda rhaglenni gwydn ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol trin gorbryder/iselder ysgafn yn ogystal â chyflawni gwaith atal – i arafu eich system nerfol cyn iddo effeithio ar eich iechyd.’ 

‘Rydw i wedi dysgu cymaint. O’r ymarferion wnes i gymryd rhan ynddyn nhw. Y myfyrdodau, yn eistedd ac yn symud. Yr arferion ar y cyd. Y caredigrwydd, y ddynoliaeth gyffredin, y gofal, y cysylltiad, y caniatâd i gymryd fy amser.’ 

‘Fe wnes i elwa cymaint o’r cwrs hwn, a daeth ar adeg lle’r oedd ei angen arnaf yn fy mywyd personol a phroffesiynol, i ddatblygu, arafu ac ystyried ar be ddylwn i ganolbwyntio er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth rwy’n ei reoli ar gyfer y staff a’r cleifion. Diolch i dîm GG am gynnig y rhodd o amser imi a chyfle i fyfyrio ynghyd ag ymchwilio ac adfer’

Golygfa Gwydyr, Tachwedd 2025

Eisiau gwybod mwy?

I wybod mwy am ddigwyddiadau ar y gweill, neu os hoffech chi drafod sesiynau tîm penodol, gwelwch Lles adran.